top of page
Bangor First

 CYFARWYDDWYR

I sicrhau fod y cwmni AGB yn cyflawni ei rwymedigaethau cyllidol, cyfreithiol a chyflogaeth.

I sicrhau fod ardollau’r AGB yn cael eu casglu yn unol â’r hyn sydd wedi ei osod allan yn y Cynllun Busnes.

I sicrhau bod y prosiectau yng Nghynllun Busnes AGB Bangor yn cael eu cyflawni’n effeithiol.

I fonitro’r cynnydd ac i adrodd yn ôl yn rheolaidd i dalwyr yr ardoll, cyfranwyr gwirfoddol a rhandeiliaid eraill.

I geisio am gyllid ychwanegol gan randdeiliaid o’r tu allan i ardal yr AGB, y rhai hynny o fewn yr ardal AGB ond islaw trothwy ardoll yr AGB a gan ddarparwyr creu grantiau / nawdd eraill i alluogi’r AGB i gyflawni ei addewidion cyllidol.

I ethol Cadeirydd a swyddogion eraill o blith eu nifer.

I reol’r bleidlais adnewyddu ar diwedd pob tymor
 

​

TREFNIADAU AC AMLDER CYFARFODYDD
 

​

Bydd y Cyfarwyddwyr yn cyfarfod unwaith y mis ar amser a lleoliad sydd yn addas ar gyfer y mwyafrif o bartïon. Disgwylir y bydd pob person, drwy ymrwymo i fod yn Gyfarwyddwr, yn ymdrechu i fod yn bresennol ym mhob cyfarfod o’r Bwrdd er mwyn galluogi i benderfyniadau allweddol gael eu gwneud yn effeithiol ac yn sydyn.

Os bydd Cyfarwyddwr yn absennol o dri Cyfarfod o’r Bwrdd yn olynnol, neu’n mynychu llai na 75% o Gyfarfodydd y Bwrdd o fewn un flwyddyn, bydd yn colli ei le/lle ar y Bwrdd.

Gall Cyfarwyddwyr hefyd arwain un o nifer o îs-grwpiau sydd wedi’u sefydlu i ddarparu prosiectau penodol, fel arfer mewn meysydd ble mae ganddynt ddiddordeb neu arbenigedd arbennig (e.e. marchnata; prynu fel grŵp) ac yn cadw’r prif fwrdd yn wybodus ar unrhyw  ddatblygiadau.

Bydd yn rhaid i unrhyw brosiectau sydd y tu hwnt i gwmpas y Cynllun Busnes gael eu trafod a’u cytuno gan y Bwrdd cyn gwneud penderfyniadau. 

Dylai Cyfarwyddwyr fod â’r gallu i gynnig lleiafswm o un diwrnod y mis i’r AGB ar gyfartaledd, gyda’r amser hwn, fel arfer, yn cael ei ddefnyddio i adolygu gwybodaeth, i gynnal archwiliadau, i oruchwylio prosiectau a mynychu cyfarfodydd. 

​

Efallai y bydd rhai misoedd yn brysurach nag eraill, yn enwedig os fyddai’r Bwrdd wedi penderfynu mynd i ail-bleidlais ar ddiwedd y tymor cyfredol ac felly bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd.  

bottom of page