Gwiriwr Cymhwysedd Cymorth Busnes Cronfa Cadernid Economaidd COVID-19 – Rhagfyr 2021 – Chwefror 2022
Mae'r Gronfa Cadernid Economaidd wedi'i thargedu at fusnesau a sefydliadau yn y sectorau lletygarwch, hamdden ac atyniadau a'u cadwyni cyflenwi, sydd wedi'u heffeithio’n sylweddol gan ostyngiad o fwy na 50% o drosiant rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022.
Amcan y gronfa yw ategu mesurau ymateb Covid-19 eraill i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru.
Bydd y Gronfa yn cefnogi:
-
Busnesau wedi cael eu heffeithio rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022 ac wedi cau oherwydd y rheoliadau ar 26 Rhagfyr 2021.
-
Gofod Digwyddiadau ac atyniadau wedi’u heffeithio'n ddifrifol gan gyfyngiadau rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022.
-
Busnesau eraill sydd â mwy na 60% o effaith ar drosiant o ganlyniad uniongyrchol i'r cyfyngiadau rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022.
Ac (yn berthnasol i bawb):
-
Wedi cael eu heffeithio yn sylweddol drwy lai o drosiant o 50% neu fwy rhwng mis Rhagfyr 2021 ac Chwefror 2022 o'i gymharu â mis Rhagfyr 2019 a mis Chwefror 2020.
Gallwch ddefnyddio'r offeryn hwn i wirio'ch cymhwysedd ar gyfer y pecyn pellach hwn o gymorth.
I ddarllen y Nodiadau Canllaw a'r Cwestiynau Cyffredin ewch i Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) Rhagfyr i Chwefror 2022 | Busnes Cymru (gov.wales)
Am ragor o wybodaeth, ewch i https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy
Yn ogystal â’r Gronfa Cadernid Economaidd, bydd Awdurdodau Lleol yn darparu grantiau sy’n gysylltiedig ag ardrethi annomestig (NDR) i fusnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth nad ydynt yn hanfodol (NERHLT). Ni fydd proses ymgeisio ar gyfer yr elfen hon ond i gael taliad, rhaid i fusnesau gofrestru â’u hawdurdod lleol i gadarnhau eu manylion. Yna bydd grantiau cysylltiedig ag NDR yn cael eu talu’n uniongyrchol i dalwyr ardrethi fel a ganlyn:
-
Bydd busnesau NERHLT sy’n derbyn Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (SBRR) ac sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai yn gymwys am daliad o £2,000.
-
Bydd busnesau NERHLT sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000 yn gymwys am daliad o £4,000 os yw’r cyfyngiadau’n effeithio arnynt.
-
Bydd busnesau NERHLT sydd â gwerth ardrethol rhwng £51,001 a £500,000 yn gymwys am daliad o £6,000 os yw’r cyfyngiadau’n effeithio arnynt.
Bydd awdurdodau lleol hefyd yn rhedeg cronfa ddewisol drwy broses ymgeisio fer.
Bydd unig fasnachwyr, gweithwyr llawrydd a gyrwyr tacsi yn gallu gwneud cais am £1,000 a bydd busnesau sy’n cyflogi pobl ond nad ydynt yn talu ardrethi busnes yn gallu gwneud cais am £2,000.
Bydd y broses gofrestru ar gyfer y grantiau sy’n gysylltiedig ag ardrethi annomestig yn agor ar 13 Ionawr 2022.
Newyddion
DATHLU 20 MLYNEDD
Mae PC 214 Lisa Thomas wedi cyrraedd carreg filltir yn ei gyrfa ac heddiw’n dathlu 20 mlynedd o wasanaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru.
Hoffem ddiolch o galon i Lisa am wneud Canol Dinas Bangor yn lle mwy diogel.