Cronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref Busnes Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio'r Gronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref fel rhaglen beilot i roi cymorth ariannol i entrepreneuriaid a busnesau sy'n awyddus i ddechrau a thyfu busnes yn un o bedwar canol tref ledled gogledd Cymru - Bangor, Bae Colwyn, y Rhyl a Wrecsam.
Bydd y gronfa hon ar gael fel grant dewisol o rhwng £2,500 - £10,000 fesul busnes i gefnogi gyda'r costau refeniw sydd ynghlwm â dechrau busnes mewn canol tref neu adleoli i ganol tref.
Er mwyn manteisio ar y gronfa, rhaid i chi gyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb (ar gael i'w lawrlwytho isod) a chofrestru gyda Busnes Cymru. Yna cewch eich neilltuo â Chynghorydd Busnes a fydd yn eich cefnogi a'ch arwain drwy'r broses ymgeisio lawn.
Bydd gofyn i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf canlynol:
-
Rhaid iddynt fod naill ai'n fusnes newydd (cyn-refeniw) neu'n ficro fusnes (yn cyflogi rhwng 0-9 o weithwyr) sydd wedi bod yn masnachu ers llai na 2 flynedd.
-
Darparu cynllun busnes 12 mis dichonadwy ar gyfer y lleoliad dynodedig yng nghanol y dref.
-
Darparu rhagolygon llif arian o 12 mis o'r dyddiad y bydd y busnes newydd yn dechrau masnachu yn y lleoliad yng nghanol y dref.
-
Arddangos isafswm arian cyfatebol o 100% ar gyfer y grant (drwy arbedion, benthyciadau etc.).
-
Yn gallu ymrwymo i denantiaeth yn un o'r pedwar canol tref am o leiaf 12 mis.
-
Meddu ar fynediad at gyfrif banc busnes ar gyfer y busnes sy'n gwneud cais am y grant.
-
Rhaid i'r busnes fod yn brif ffynhonnell incwm a/neu gyflogaeth yr ymgeisydd.
-
Yn gofrestredig ac yn gweithredu'n llwyr yng Nghymru.
-
Rhaid i'r perchennog busnes gyflwyno'r cais, yn hytrach nag asiantau sy'n gweithredu ar eu rhan, ond nid yw hyn yn golygu na all ymgeiswyr geisio cefnogaeth i helpu gyda chwblhau ffurflen gais.
Nid oes unrhyw waharddiadau i unrhyw un sydd wedi cael cefnogaeth ariannol yn y gorffennol gan naill ai Llywodraeth Cymru neu Awdurdodau Lleol, cyn belled â'u bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y gronfa hon.
Mae Cronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref Busnes Cymru yn agored i geisiadau tan 20 Mehefin 2022, os yw'r cronfeydd yn caniatáu. Os caiff cronfeydd eu defnyddio cyn y dyddiad hwn, bydd y cynllun yn cau.
Am ragor o wybodaeth ynglÅ·n â'r gronfa a'r meini prawf cymhwysedd, lawrlwythwch y nodiadau canllaw a'r ffurflen Mynegi Diddordeb isod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau a hoffech sgwrsio ag un o'n tîm, cysylltwch â 03000 6 03000.
GWASANAETHAU BUSNES
Gyda swyddfa wedi ei lleoli ar y Stryd Fawr, mae ein drws yn agored bob amser i gynnig cefnogaeth. Rydyn ni yma i helpu ac i hyrwyddo busnesau, boed hynny drwy hysbysebu neu gyngor a chefnogaeth wedi ei deilwra’n benodol gan ein tîm. Mae Bangor yn gartref i ystod eang o fusnesau, o gaffis i siopau crefft, mecanyddion i’r cyfryngau, manwerthwyr mwy i siopau bara bychain. Mae’n bwysig i fusnesau allu cael llais cydgysylltiedig ar faterion sy’n effeithio arnynt.
Anelwn i ddarparu amgylchedd cefnogol iddynt allu ffynnu o’i fewn.
Byddwn yn:
-
Addasu ein cytundeb lefel gwasanaeth gyda Chyngor Sir Gwynedd i sicrhau fod gwasanaethau’r awdurdod lleol yn cael eu darparu yn ôl y disgwyl.
-
Parhau i fod mewn cysylltiad gyda llywodraeth leol a chenedlaethol, yr heddlu, a Phrifysgol Bangor.
-
Ceisio am gefnogaeth a buddsoddiad allanol i Fangor.
Gwelliant i Fangor