top of page

 YCHYDIG AMDANOM NI

Mae Bangor Yn Gyntaf yn Ardal Gwella Busnes (AGB), sy’n gweithio i adeiladu canol dinas mwy bywiog drwy roi

 

BANGOR YN GYNTAF!

Ym mis Tachwedd 2015, sefydlodd busnesau yng nghanol dinas Bangor fecanwaith wedi ei arwain a’i gyllido gan fusnesau a elwir yn Ardal Gwella Busnes (AGB). Mae’r AGB yma’n helpu i wella Bangor fel lle i weithio, i fyw ac i ymweld ag ef trwy ddarparu rhaglen o wasanethau wedi’u targedu. 

 

   Rydym, fel AGB, yn cefnogi menterau lleol a prosiectau cymunedol sy’n rhoi cyfleoedd i bobl ddysgu sgiliau newydd ac i arddangos eu gwaith.

 CWESTIYNAU CYFFREDIN

BETH YW AGB?

Mae Ardal Gwella Busnes (AGB) yn bartneriaeth sy’n cael ei harwain a’i hariannu gan fusnesau, ble mae busnesau o fewn ardal benodol yn buddsoddi arian gyda’i gilydd i wneud gwelliannau maent wedi eu hadnabod ar gyfer eu hamgylchedd masnachu. Sefydlir AGB yn dilyn ymgynghoriad a phleidlais ble gall busnesau bleidleisio ar gynnig neu gynllun busnes AGB ar gyfer yr ardal honno. 

Os bydd y bleidlais yn llwyddiannus, bydd wedyn yn cael ei reoli a’i redeg gan Gwmni AGB – cwmni nid-er-elw sy’n cael ei redeg gan, ac ar gyfer, ei aelodau – ac yn cael ei gyllido drwy ardoll yr AGB, sydd yn ganran fechan o werth ardrethol busnes. 
Mae’r gwelliannau a wneir gan yr AGB yn cael eu penderfynu gan y busnesau eu hunain ac yn ychwanegol i’r gwasanaethau hynny mae’r awdurdod lleol yn eu darparu. Gallent gynnwys gwasanaethau craidd megis glanhau a diogelwch ychwanegol, neu brosiectau mwy eang fel cefnogaeth busnes, gwella’r isadeiledd, gwasanaethau ymwelwyr, brandio i’r ardal, hyrwyddiadau a gweithgareddau diwylliannol.

SUT MAE BANGOR YN GYNTAF YN CAEL EI ARIANNU – A SUT MAE’R ARIAN YN CAEL EI WARIO?

Ariennir Bangor Yn Gyntaf drwy ardoll o 1.50% ar werth ardrethol eiddo (unedau busnes) o fewn ffiniau diffiniedig yr AGB sydd â gwerth arthrethol o £5,000 neu fwy, fel ar ddyddiad yr hysbysiad o bleidlais (28ain Ionawr 2021) ar gyfer ail dymor yr AGB.

Mae busnesau gyda gwerth ardrethol islaw’r trothwy’n eithriedig o dalu’r ardoll, er y gallant gyfrannu’n wirfoddol fel mae rhai wedi ei wneud eisioes ym Mangor.

Mae talwyr ardreth sy’n derbyn gostyngiad mandadol ar eu hardrethi busnes ac wedi’u lleoli mewn swyddfa yn cael gostyngiad ar eu hardreth AGB ar yr un raddfa. Nid yw’r disgownt hwn yn berthnasol i unedau busnes sy’n derbyn gostyngiad mandadol sydd yn fanwerthwyr.

Mae’r ardoll yma’n codi cronfa sy’n dod i gyfanswm o £740,000 fydd yn cael ei fuddsoddi yng nghanol y ddinas dros ail dymor pum mlynedd yr AGB. 

Mae gwasanaethau‘r AGB uwchlaw a thu hwnt i’r hyn mae’r Awdurdod Lleol a’r Cyngor Dinas yn ei ddarparu’n bresennol i’r ddinas. Er mwyn sicrhau fod y gwasanaethau mae’r AGB yn eu darparu yn ychwanegol i’r hyn a dderperir eisioes, mae gan yr AGB gytundeb gwaelodlin gyda’r awdurdodau lleol sy’n rhoi manylion am y gwasanaethau maent yn eu darparu ar hyn o bryd. 

Mae cronfeydd yr AGB ar gyfer prosiectau sy’n ychwanegol i’r rhai hynny mae’r cynghorau lleol yn eu darparu yn unig, ac ond i gael eu gwario i wella’r ardal y cawsant eu codi ynddi.

SUT MAE’R ARDOLL YN CAEL EI CHASGLU?

Cesglir ardoll yr AGB yn flynyddol. Rydym yn comisiynu’r awdurdod lleol i gasglu’r ardoll ar ein rhan fel bil ar wahân. Bydd yr ardoll yn cael ei hadolygu yn flynyddol yn unol â chwyddiant.

Mae Bangor Yn Gyntaf yn gwmni cyfyngedig trwy warant. Mae ardoll yr AGB yn fandadol i’r holl eiddo cymwys (y rhai hynny sydd â gwerth ardrethol dros £5,000) o fewn ardal yr AGB. Mae hyn yn cynnwys y rhai hynny sy’n eiddo i awdurdodau lleol neu gyrff cyhoeddus eraill.

SUT MAE’R AGB YN CAEL EI LYWODRAETHU?

Sefydlwyd Bangor Yn Gyntaf yn 2015, yn dilyn pleidlais lwyddiannus, gyda busnesau cymwys yn pleidleisio o blaid parhau gyda gwaith yr AGB am ail dymor ym mis Mawrth 2021. Mae’n gwmni annibynnol, nid-er-elw. Mae’n gorff tryloyw sy’n agored i sgriwtini gan ei dalwyr ardoll a’r gymuned mae’n gweithredu o’i mewn, gyda’r wybodaeth am incwm a gwariant yn cael ei diweddaru’n rheolaidd ar gyfer holl aelodau’r AGB.

Arweinir Bangor Yn Gyntaf gan y sector breifat – bwrdd o gyfarwyddwyr sy’n cynrychioli trawsdoriad o’r busnesau ym Mangor. Mae Rheolwr AGB llawn amser yn darparu’r rhaglen, dan oruchwyliaeth y bwrdd. Defnyddir fframwaith gwerthuso i fesur perfformiad, gan ddefnyddio data megis ystadegau troseddu, ffigyrau am niferoedd ymwelwyr, ac arolygon ymwelwyr a busnes.

AM BA HYD MAE’R AGB YN PARA?

Mae’r AGB yn rhedeg fesul tymor pum mlynedd ac yn ei ail dymor ar hyn o bryd, wedi cychwyn hwn yn 2021, gan sicrhau buddsoddiad yng nghanol dinas Bangor hyd 2026. Bydd busnesau’n pleidleisio i bendefynu os ydynt am i’r AGB barhau gyda’i waith mewn pleidlais adnewyddu yn 2026.

SUT MAE PLEIDLAIS YR AGB YN GWEITHIO?

Ni ellir ail-sefydlu AGB oni bai bod pleidlais lwyddiannus o fusnesau cymwys ym Mangor wedi cymryd lle. 

 

Yn 2026, bydd pob busnes cymwys o fewn ffiniau’r AGB yn derbyn papur pleidleisio drwy’r post i bleidleisio gydag ef. Bydd yn rhaid dychwelyd y papurau o fewn mis.



 

Er mwyn ail-sefydlu, mae’n rhaid i’r bleidlais basio ar ddau gyfrif: mae’n rhaid i fwyafrif syml o’r rhai sy’n pleidleisio fod o blaid ac mae’n rhaid i’w pleidleisiau gynrychioli mwy na 50% o gyfanswm gwerth ardrethol yr eiddo sydd wedi pleidleisio.



 

Sefydlwyd yr AGB ym mis Tachwedd 2015, yn dilyn pleidlais lwyddiannus, a cafodd ei ail-sefydlu mewn pleidlais adnewyddu ym mis Mawrth 2021, gyda’r bleidlais yn glynu i’r rheolau pleidleisio hyn ar y ddau achlysur.

SUT BYDD YR ARIAN YN CAEL EI DDYRANNU

Dros ein tymor 5 mlynedd, bydd Bangor Yn Gyntaf yn gwario dros £740,000 yng nghanol y ddinas.

12%

Business Services / Gwasanaethau Busnes

39%

Safety & Security / Diogelwch

12%

Gwasanaethau Busnes

39%

Diogelwch

8%

Proffil yr Ardal

16%

Diwylliant

20%

Costau Rhedeg a Statudol yr AGB

5%

 Wrth Gefn

​

NODIADAU ESBONIO: Mae ardoll gyflawn yr AGB yn tybio graddfa gasglu o 95%. Mae cronfa wrth gefn / ymatebol o 5% wedi ei chynnwys. Mae’r ffigyrau’n real heb ddim chwyddiant wedi ei gymhwyso. Mae’r costau craidd yma yn cynnwys: Amser staff sydd ddim yn ymroddedig i ddarparu prosiectau. Mae costau prosiectau rheoli cyllid yn cynnwys dyraniad ar gyfer adnodd staff er mwyn sicrhau defnydd effeithiol o’r arian.

bottom of page